Protestiwr yn cael ei arestio y Oakland, Califfornia (Llun: PA)
Mae pleidleiswyr sy’n anhapus â buddugoliaeth arlywyddol y biliwnydd Donald Trump wedi troi i’r strydoedd i brotestio.

Heddiw, gwelwyd gwrthdystiadau yng Nghaliffornia, Oregon a Washington ac fe ddaeth o leia’ 500 o bobol at ei gilydd i brotestio ym mhrifysgol UCLA.

Mae rhai o’r protestwyr yn dweud na wnân nhw fyth dderbyn canlyniad yr etholiad gydag eraill yn llosgi modelau o Donald Trump ac yn rhwystro ffyrdd.

Dywedodd gwasanaeth Patrol Priffyrdd Califfornia bod dynes wedi cael ei hanafu yn ddifrifol ar ôl cael ei tharo gan gar yn ystod un brotest.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yma, yn ol yr heddlu.