Hillary Clinton a Donald Trump yn y ddadl deledu, Llun: PA
Mae Donald Trump wedi cyhuddo cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau Bill Clinton o “ymosod yn rhywiol ar ferched” mewn ail ddadl deledu danllyd yn yr ymgyrch arlywyddol.
Roedd ymgeisydd y Gweriniaethwyr wedi cwrdd â merched sydd wedi cyhuddo Bill Clinton o dreisio ac ymddygiad rhywiol cyn y ddadl, gan honni y dylai Hillary Clinton deimlo “cywilydd” am ymosod ar y merched sy’n cyhuddo ei gwr.
Roedd hefyd wedi amddiffyn fideo ohono yn 2005 lle cafodd ei glywed yn gwneud sylwadau sarhaus am ferched.
“Mae gen i barch mawr tuag at ferched,” meddai Donald Trump. “Nid oes gan unrhyw un mwy o barch tuag at ferched na fi.
“Dw i’n teimlo embaras am y peth (y fideo). Dw i’n ei gasáu,” meddai.
Mae’n gwadu ei fod erioed wedi ymosod ar ferched yn y ffyrdd roedd wedi eu disgrifio yn y recordiad fideo yn 2005.
Dywedodd Trump mai “siarad” am y peth wnaeth e, tra bod Bill Clinton wedi “gweithredu”.
Nid oedd Bill Clinton erioed wedi wynebu cyhuddiadau troseddol mewn cysylltiad â honiadau o gamymddygiad rhywiol a chafodd achos o drais honedig ei ddiystyru.
Ond wrth ymateb, dywedodd Hillary Clinton bod sylwadau’r Gweriniaethwr yn y recordiad yn cynrychioli “yn union pwy yw e” gan ychwanegu nad oedd yn “ffit” i gamu i’r Tŷ Gwyn.
Fe fydd y drydedd ddadl deledu yn cael ei chynnal yn Las Vegas ar 19 Hydref cyn yr etholiad ar 8 Tachwedd.