Mae cyrchoedd awyr wedi difrodi dau ysbyty yn ninas Aleppo yn Syria, gan ladd dau glaf oedd yn ddifrifol wael.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yn gynnar fore Mercher, gan daro ysbytai M1 ac M10 a tharo eu cyflenwadau trydan a dwr am gyfnod.

Bu farw dau glaf difrifol wael yn ysbyty M10, wrth i’r uned gofal dwys gael ei daro a’i ddifrodi.

Mae’r ddau ymosodiad yn cael eu hystyried yn rhai bwriadol, ac mae’r ddau ysbyty yn llefydd y mae lluoedd llywodraeth Syria yn ymwybodol ohoyn nhw.

Mae’r ymosodiadau diweddara’ hyn yn golygu mai dim ond chwech ysbyty sydd yn weithredol yn ninas Aleppo bellach, a dim ond tri o’r rheiny fyddai’n gallu delio ag achosion brys.