Mae beth bynnag ddwsin o ferched wedi torri ar draws araith economaidd gan Donald Trump, gan neidio a gweiddi ar draws yr ymgeisydd arlywyddol tra’r oedd yn cyflwyno’i sylwadau yn Detroit.

Fesul un, fe gododd y merched o’u seddi yma ac acw yn y neuadd, gan weiddi “Mr Trump!” cyn i weddill y gynulleidfa ddechrau bw-ian, a chyn i swyddogion diogelwch ddod i’w hebrwng allan o’r stafell.

Mae sefydliad o’r enw ‘Michigan People’s Campaign’ wedi dweud mai nhw oedd y tu ôl i’r brotest. Roedd hi’n anodd clywed yn union beth oedd y merched yn ei ddweud, ond mae’r grwp yn dweud eu bod nhw’n gweiddi ar Donald Trump ynglyn â’i sylwadau am ferched ac am swyddi.

“Roedd o wedi’i gynllunio’n dda,” meddai Donald Trump am y brotest, cyn ychwanegu, “Mae gan bobol Bernie Sanders dipyn mwy o egni ac ysbryd.”

Roedd nifer o bobol yn y gynulleidfa wedi gweiddi, “Rydan ni’n dy garu di, Trump!”