Cwch yn cludo ffoaduriaid Llun: PA
Mae bachgen a merch wedi marw ar ôl i gwch oedd yn cludo ffoaduriaid ger ynys Roegaidd droi drosodd.

Mae chwech o bobol yn dal ar goll oddi ar Lesbos, ac mae’r awdurdodau’n ceisio dod o hyd iddyn nhw.

Dywedodd yr awdurdodau bod cyrff y plant wedi cael eu darganfod yn y dŵr, a bod pedwar o bobol eraill wedi cael eu hachub.

Dywedodd dau o’r bobol a gafodd eu hachub eu bod nhw ymhlith 11 o bobol oedd wedi bod mewn cwch ar ei ffordd i Dwrci.

Mae nifer y bobol sy’n ceisio cyrraedd Twrci wedi disgyn yn sylweddol ers i’r wlad ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd i gyfyngu ar nifer y ffoaduriaid sy’n cael eu derbyn i’r wlad.