Mae disgwyl i 18,000 ffarwelio â Muhammad Ali am y tro olaf heddiw yn ei angladd yn Louisville, Kentucky.

Bydd y seremoni yn cael ei darlledu, gydag arweinwyr gwledydd ac enwogion fel y cyn-Arlywydd, Bill Clinton a’r actor o Hollywood, Will Smith, yn cymryd rhan.

Mae disgwyl i ferch yr ymgyrchydd hawliau dynol i bobol ddu, Malcom X – Attallah Shabazz – siarad hefyd.

Bydd degau o filoedd o deulu, ffrindiau a chefnogwyr o ledled y byd yn cwrdd yn y stadiwm KFC Yum! Centre, yn Louisville am ddau o’r gloch, sef saith yr hwyr yn y wlad hon.

Bydd gorymdaith drwy ddinas Louisville yn y bore, cyn y claddu preifat ym mynwent Cave Hill.

Neges Obama

Ni fydd Arlywydd America Barack Obama yn yr angladd – bydd yn seremoni raddio ei ferch Malia. Ond mewn neges fideo, disgrifiodd Obama y bocsiwr byd-enwog fel “eicon” ac “arwr personol” iddo.

“Mae’n brin iawn pan fydd ffigwr yn cipio dychymyg y byd i gyd. Mae hyd yn oed yn fwy prin pan fydd y ffigwr hwnnw yn gwneud hynny drwy fod yn agored ac yn ddoniol, yn hael ac yn ddewr,” meddai.

Bydd yr angladd yn cael ei ddangos yn fyw ar y We ac yn Arena 02 Llundain, lle mae ei arddangosfa, I Am The Greatest.

Mae rhai pobol sydd â thocynnau i’r digwyddiad wedi cael eu beirniadu am geisio elwa ar y digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim, drwy werthu tocynnau ar-lein.

Cafodd gwasanaeth Islamaidd traddodiadol ei gynnal ddydd Iau yn Freedom Hall, lle ddechreuodd Muhammad Ali ei yrfa broffesiynol gyda buddugoliaeth yn erbyn Tunney Hunsaker yn 1960.