Prif Weinidog Twrci Ahmet Davutoglu
Mae 11 o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad bom yn Ankara ddoe, a laddodd 37 o bobl, meddai Prif Weinidog Twrci.

Dywedodd Ahmet Davutoglu wrth newyddiadurwyr bod yna arwyddion cryf bod yr ymosodiad wedi’i gynnal gan wrthryfelwyr Cwrdaidd.

Ychwanegodd bod profion DNA ar y ddau sy’n cael eu hamau o ffrwydro’r bom yn parhau.

Fe roddodd addewid y byddai Twrci yn parhau gyda’i brwydr yn erbyn y gwrthryfelwyr nes eu bod wedi eu diddymu.

Yn y cyfamser mae lluoedd arfog Twrci wedi cynnal cyrchoedd awyr yn erbyn gwrthryfelwyr Cwrdaidd yng ngogledd Irac.

Roedd naw o awyrennau F-16 a dau F-4 wedi cynnal cyrchoedd ar 18 o safleoedd y  Kurdistan Workers’ Party, neu’r PKK, yng ngogledd Irac. Mae’r PKK yn cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Cafodd 37 o bobl eu lladd a 125 eu hanafu yn y ffrwydrad ger arosfan bysiau yn Ankara bnawn dydd Sul.