Sepp Blatter
Mae dau o ddynion mwyaf pwerus y byd pêl-droed wedi cael eu gwahardd rhag ymwneud â’r gêm am wyth mlynedd, yn dilyn ymchwiliad gan bwyllgor moeseg FIFA.
Fe ddyfarnodd beirniad y pwyllgor, Hans-Joachim Eckert fod Sepp Blatter a Michel Platini wedi camddefnyddio eu pŵer fel llywyddion FIFA a UEFA.
Maen nhw’n euog o dorri côd moeseg FIFA ar ôl i Sepp Blatter, llywydd FIFA dalu £1.3m i Michel Platini, llywydd UEFA yn 2011.
Bydd Sepp Blatter hefyd yn wynebu dirwy o £33,700 a Michel Platini £54,000.
Mae’r ddau yn dweud bod yr £1.3m wedi ei dalu yn dilyn cytundeb ar lafar rhyngddyn nhw pan oedd Michel Platini yn gweithio i Sepp Blatter rhwng 1998 a 2002.
Cafodd yr eglurhad ei wrthod gan y pwyllgor moeseg, ond doedd y dystiolaeth ddim yn ddigonol i’w cyhuddo o droseddau llygredd.
Sepp Blatter i apelio
Fe wnaeth ymgynghorydd personol Sepp Blatter gadarnhau wrth y Press Association y bydd yn apelio yn erbyn y gwaharddiad a mynd â’r achos i’r Llys Cyflafareddu yn Lausanne yn Y Swistir.
Mae’n debygol y bydd Michel Platini, a oedd wedi gobeithio olynu Sepp Blatter fel llywydd FIFA yn yr etholiad mis Chwefror, yn gwneud yr un peth.
Mae Blatter yn honni nad oedd gan bwyllgor moesau Fifa yr hawl i’w wahardd o’i waith fel llywydd FIFA.