Y gwasanaethau brys tu allan i neuadd Bataclan ym Mharis
Mae heddlu yn Ffrainc sy’n ymchwilio i’r ymosodiadau brawychol ym Mharis wedi adnabod trydydd dyn a ymosododd ar bobl yn neuadd gyngherddau’r Bataclan.

Dywedodd llefarydd fod Foued Mohamed-Aggad, 23, yn hanu o Strasbwrg a’i fod wedi gadael am Syria yn 2013.

Hyd yma, mae’r holl ymosodwyr sydd wedi cael eu cadarnhau yn dod o Ffrainc neu Wlad Belg.

Cafodd 130 o bobol eu lladd yn yr ymosodiadau ar Dachwedd 13.

Cafodd y tri ymosodwr eu lladd – un wedi’i saethu gan yr heddlu a’r ddau arall yn hunan-fomwyr.