Mark Zuckerberg
Mae sylfaenydd Facebook a’i wraig  wedi cyhoeddi eu bod nhw am roi 99% o’u cyfoeth o £30 biliwn i elusen yn dilyn genedigaeth eu merch.

Roedd Mark Zuckerberg a Priscilla Chan wedi ysgrifennu llythyr agored i’w plentyn cyntaf, Max, a’i rannu ar y wefan gymdeithasol yr oedd e wedi’i sefydlu.

Yn y llythyr, fe wnaeth y cwpl addo i ddefnyddio eu cyfoeth i ddod ag afiechydon i ben, defnyddio ynni gwyrdd, lleihau tlodi a hybu cydraddoldeb.

Mewn neges Facebook, gyda llun ohonyn nhw’n edrych ar eu merch fach newydd, ysgrifennodd y ddau, “Rydym yn ymrwymedig i wneud ein rhan fach i helpu i greu’r byd hwn ar gyfer pob plentyn.”

“Byddwn yn rhoi 99% o’n cyfrannau Facebook, sydd tua 45 biliwn o ddoleri (£30 biliwn) ar hyn o bryd, yn ystod ein bywydau i ymuno â llawer o bobol eraill i wella’r byd hwn ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Mewn llythyr agored i’w ferch, dywedodd Mark Zuckerberg  y byddai’n parhau yn ei rôl fel Prif Weithredwr Facebook am lawer o flynyddoedd ond addawodd i ddechrau nawr ar adeiladu dyfodol gwell.

“Max, rydym yn dy garu di ac yn teimlo cyfrifoldeb mawr i adael y byd yn lle gwell ar dy gyfer di a phob plentyn.”