Mae ffrwydriad mewn clwb nos yn ninas Bucharest wedi lladd 27 o bobol, ac anafu 88.

Mae Gweinidog Cartref Romania, Gabriel Oprea, wedi cadarnhau i’r ffrwydriad ddigwydd mewn clwb yng nghanol y brifddinas sy’n gartre’ i 3 miliwn o bobol.

Mae gorsaf deledu Digi 24 wedi adrodd tystiolaeth gan bobol oedd yng nghlwb Colectiv ar y pryd, gan ddweud fod sbarc oddi ar y llwyfan lle’r oedd band roc trwm yn perfformio, wedi cynnau peth o’r deunydd polystyren oedd yn rhan o addurniadau’r waliau.

Fe ddaeth 60 o ambiwlansys i’r safle i geisio diffodd y fflamau, ac fe gafodd ysbyty dros-dro ei sefydlu y tu allan i’r adeilad.