Mae’r Undeb Ewropeaidd 
 wedi mynnu bod y cwmni coffi o America, Starbucks a’r cwmni cynhyrchu ceir, Fiat yn talu £22 miliwn mewn consesiynau treth gorfforaethol a gawson nhw gan wledydd yr UE.

Mae’r newyddion yn dod yn dilyn penderfyniad i dynhau’r rheolau’n ymwneud a thoriadau treth y mae cwmnïau mawr rhyngwladol yn eu cael.

Dywedodd comisiynydd yr UE, Margrethe Vestager “y dylai pob cwmni, bach neu fawr, rhyngwladol neu ddim, dalu ei gyfran deg o dreth.”

Mae’r comisiwn wedi bod yn tynhau’r rheolau yn neddfwriaeth yr UE sydd wedi galluogi cwmnïau rhyngwladol i osgoi talu miliynau mewn treth.

Yr Iseldiroedd fydd yn gorfod casglu’r dreth gan Starbucks a Lwcsembwrg fydd yn casglu gan Fiat.

Yn ôl y comisiwn, mae’r UE yn ymchwilio i arferion treth tebyg ym mhob un o 28 gwlad yr undeb.