Mae bron i draean o’r ceiswyr lloches sy’n cyrraedd yr Almaen ac yn honni dod o Syria, yn dweud celwydd, yn ôl yr awdurdodau.

Mae cannoedd o filoedd o bobol wedi heidio i’r Almaen ers dechrau’r flwyddyn, gan geisio lloches rhag tlodi, erlid a rhyfel.

“Dyw 30% o’r ceiswyr lloches sy’n honni dianc o Syria, ddim yn dod o’r wlad honno,” meddai Gweinidog Materion Cartref yr Almaen, Tobias Plate.

Ond mae’r Almaen hefyd wedi dweud heddiw na fydd yn anfon y ceiswyr lloches hyn yn ôl i’r gwledydd Ewropeaidd y daethon nhw ohonyn nhw, er bod hynny’n bosib dan reolau’r Undeb Ewropeaidd.