Mae Arlywydd yr Aifft, Abdul Fattah al-Sisi wedi cymeradwyo cyfres o ddeddfau gwrth-frawychiaeth newydd mewn ymgais i dawelu’r nifer cynyddol o Islamyddion yn y wlad.

Yn unol â’r deddfau newydd, fe fydd llysoedd arbennig yn cael eu sefydlu ac fe fydd milwyr a heddlu sy’n defnyddio grym i dawelu gwrthryfelwyr yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu herlyn.

Fe fydd unrhyw un sy’n euog o sefydlu neu arwain grŵp brawychol yn wynebu’r gosb eithaf.

Ond mae beirniaid y llywodraeth yn honni y gallai al-Sisi ddefnyddio’r deddfau newydd i dawelu unrhyw wrthwynebydd.

Fe fu’r deddfau newydd ar y gorwel ers mis Mehefin, pan gafodd erlynydd cyhoeddus ei ladd mewn ffrwydrad yn ei gar.

Manylion y deddfau newydd

* Bydd achos llys unrhyw un sy’n cael ei amau o fod yn frawychwr yn mynd i flaen y rhes ar unwaith. Bydd unrhyw un sy’n euog o ymuno â grŵp brawychol yn wynebu 10 mlynedd o garchar;

* Bydd unrhyw un sy’n euog o ariannu brawychwyr yn wynebu oes o garchar;

* Bydd unrhyw un sy’n achosi trais neu’n creu gwefannau gyda’r bwriad o ledaenu negeseuon brawychol yn cael eu carcharu am bump i saith mlynedd;

* Bydd newyddiadurwyr sy’n adrodd yn groes i’r llywodraeth ynghylch ymosodiadau brawychol yn cael dirwy o $25,000.