Hillary Clinton (o wefan ei hymgyrch)
Mae angen i America “wynebu’r gwirionedd” ynglŷn â hiliaeth a thrais yn y wlad ar ôl yr ymosodiadau marwol yn Charleston, yn ôl un o’r ymgeiswyr amlwg am Arlywyddiaeth y wlad.

Awgrymodd y Democrat Hillary Clinton, fod angen rheolau llymach ar yr hawl i gario gwn.

Cafodd naw o bobol ddu eu lladd ddoe ar ôl i ddyn gwyn, Dylann Roof, fynd i eglwys yn Ne Carolina, treulio awr mewn dosbarth Beoblaidd yno, cyn saethu’r bobol yn farw.

Mae bellach wedi dod i’r amlwg fod y saethwr, sydd bellach wedi cael ei arestio, yn arddel safbwyntiau hiliol ac yn credu yng ngoruchafiaeth pobol wyn.

Amser newid

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama eisoes wedi dweud bod yn rhaid i’r wlad “wynebu’r ffaith nad yw’r math yma o drais torfol yn digwydd mewn gwledydd datblygedig eraill”.

Ac wrth roi araith yn Las Vegas dywedodd Hillary Clinton ei bod hi’n bryd  cael rheolau llymach ar berchnogaeth gynnau.

“Sawl person diniwed arall, o blant bach i aelodau o eglwys i bobol sy’n mynd i’r sinema, faint o’r bobol hyn sydd yn rhaid i ni weld yn cael eu lladd cyn i ni wneud rhywbeth?” gofynnodd.

“Er mwyn gwneud synnwyr o bethau mae’n rhaid i ni fod yn onest,” meddai. “Mae’n rhaid i ni wynebu’r gwirionedd plaen am hil, trais, gynnau a rhaniadau o fewn cymdeithas.”

‘Safbwyntiau hiliol’

Cafodd naw aelod o Eglwys Esgobol Methodistaidd Affricanaidd Emanuel eu lladd ddoe.

Yn yr oriau ers y digwyddiad yn Charleston mae darlun o’r dyn ifanc 21 oed wedi dechrau ymddangos.

Mae’n debyg ei fod wedi ailgysylltu â hen ffrind yn ddiweddar ac yna dechrau siarad wrtho am achos Trayvon Martin, dyn du ifanc a gafodd ei saethu’n farw gan gymydog gwyn.

Yn ôl y ffrind hwn, Joey Meek, roedd Dylann Roof wedi sôn am “bobol ddu yn meddiannu’r byd” a’r angen i wneud rhywbeth am hynny er lles “yr hil wyn”.

‘Cynllun’

Ychwanegodd Joey Meek fod Dylann Roof wedi dweud wrtho rai wythnosau yn ôl fod ganddo “gynllun”, ond nad oedd wedi dweud mwy.

Mae lluniau o Dylann Roof ar Facebook hefyd yn gwisgo siacedi gyda baneri o gyfnod hiliaeth yn Ne Affrica a Rhodesia.

Mae’n ymddangos ei fod hefyd wedi cael gwn yn anrheg gan ei dad adeg ei ben-blwydd yn 21 oed ychydig fisoedd yn ôl.