Marine Le Pen, arweinydd y Front National
Methodd y Front National â chipio grym dros yr un o gynghorau lleol Ffrainc, ond fe gynyddodd eu seddi o un i 62.

Cipiodd plaid geidwadol y cyn-Arlywydd Nicolas Sarkozy, yr UMP rym dros 66 allan o 98 o gynghorau’r wlad.

Ond mae arweinydd y Front National adain dde yn fodlon ar berfformiad ei phlaid.

Mewn cyfweliad ar orsaf radio RTL, dywedodd Marine Le Pen: “Yn amlwg, rwy’n datgan fy modlonrwydd. Rydym wedi lluosogi gan 62 ein nifer o gynghorwyr etholedig.”

“Bydd y canlyniadau’n hwb i’r Front National ac i Le Pen wrth iddi droi ei sylw at ymgyrch arlywyddol yn 2017.