Rhifyn cyntaf Charlie Hebdo ers yr ymosodiad wedi mynd ar werth heddiw
Mae arweinwyr Moslemaidd wedi galw am bwyll a heddwch wedi i gylchgrawn dychanol Charlie Hebdo arddangos cartŵn o’r proffwyd Muhammad unwaith eto’r wythnos hon yn dilyn y gyflafan yr wythnos diwethaf.

Mae’r rhybudd, sydd wedi’i lofnodi gan 53 o bobol gan gynnwys sawl imam, yn galw am ymateb sy’n “adlewyrchu dysgeidiaeth cymeriad addfwyn a thrugarog y proffwyd”.

Mae’r rhybudd wedi’i gyhoeddi ar wefan Cyngor Moslemiaid Prydain, ac mae’n annog Moslemiaid i fynegi eu teimladau’n rhydd.

“Ni wnaeth e ymateb yn annynol nac yn dreisgar”, medd y wefan.

Dywed yr arweinwyr “na ddylai Moslemiaid adael i gasineb fynd i mewn i’n calonnau oherwydd y digwyddiadau erchyll ym Mharis”.