Mae teulu cyn-newyddiadurwr gyda’r BBC sydd wedi ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar yn yr Aifft wedi dweud fod y dyfarniad yn “ergyd i’r rhyddid i fynegi barn.”

Mae Peter Greste, a gafodd ei eni yn Awstralia ac a fu’n gweithio’n llawrydd dros Reuters, CNN a’r BBC, yn un dri o newyddiadurwyr Al Jazeera a gafwyd yn euog o gyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth yn dilyn ymgyrch gan lywodraeth bresennol yr Aifft yn erbyn cefnogwyr honedig y cyn-arlywydd Mohammed Morsi.

Mae David Cameron wedi dweud ei fod yn “cywilyddio” at y dyfarniad yn erbyn y tri. Y ddau newyddiadurwr arall yw Mohammed Fahmy, Eifftydd sy’n dal dinasyddiaeth Canada, a chynhyrchydd o’r Aifft, Baher Mohammed.

Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera wedi dweud fod y dyfarniad yn “groes i unrhyw resymeg, synnwyr neu unrhyw lun ar gyfiawnder.”

“Heddiw mae tri chydweithiwr wedi eu carcharu am wneud jobyn gwych o waith fel newyddiadurwyr,” meddai Al Anstey, rheolwr adain Saesneg Al Jazeera.

Cafodd wyth newyddiadurwr arall eu dedfrydu, yn eu habsenoldeb, i 10 mlynedd o garchar yr un. Yn eu plith mae dau o Brydain, Sue Turton a Dominic Kane.

Prydain ac Awstralia yn anfodlon

Mae llysgennad yr Aifft yn Llundain wedi cael ei alw i’r Swyddfa Dramor ac mae ‘r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi mynegi ei anfodlonrwydd yntau gyda’r dyfarniadau.

“Rwy’n bryderus am ddiffygion annerbyniol ym mhroses yr achos llys, yn eu plith, nad oedd tystiolaeth yr erlyniad wedi cael ei ddarparu i’r amddiffyniad,” meddai William Hague.

“Mae rhyddid y wasg yn sylfaen ar gyfer cymdeithas sefydlog a ffyniannus.”

Mae gweinidog tramor Awstralia Julie Bishop wedi datgan siom ei llywodraeth gyda’r dyfarniad, ac wedi gwadu cyhuddiad y gallai’r llywodraeth yn Awstralia fod wedi gwneud mwy o flaen llaw i liniaru’r dyfarniad.