Mae Chelsea Clinton a’i gwr wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl eu babi cynta’ yn ddiweddarach eleni.

Fe ddaeth cyhoeddiad merch cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, a’i wraig, Hillary Clinton, mewn noson gan elusen y Clinton Foundation yn Efrog Newydd neithiwr.

Mae hi a’i gwr, Marc Mezvinsky, meddai, “wedi cyffroi’n arw” gyda’r newyddion.

Mae Chelsea Clinton, 34, yn is-gadeirydd ar sefydliad y teulu, ac fe wnaeth y cyhoeddiad ar ddiwedd digwyddiad i gefnogi rhoi mwy o ddewisiadau i ferched ifanc.