Dyw’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi gwadu na chadarnhau bod hyd at wyth o filwyr SAS wedi eu cadw’n gaeth yn Libya.

Y gred yw eu bod wedi cael eu dal gan filwyr y gwrthryfel wrth iddyn nhw dywys swyddog diplomyddol.

Yn ôl papur y Sunday Times, maen nhw wedi cael eu cymryd i ddinas Benghazi yn nwyrain y wlad, sydd dan reolaeth y gwrthryfelwyr.

Mae’r papur yn dweud bod y diplomat yn ceisio cysylltu gyda’r gwrthryfelwyr ond eu bod nhw’n anhapus gydag ymyrraeth y milwyr arbennig.

Y brwydro’n parhau

Yn y cyfamser, mae’r rhyfel cartre’n parhau yn y wlad gyda lluoedd yr Arlywydd, y Cyrnol Gaddafi, yn bygwth cipio dinas Zaiwya sydd o fewn tua 30 milltir i’r brifddinas, Tripoli.

Ar y llaw arall, mae yna adroddiadau bod y gwrthryfelwyr hefyd yn ennill tir mewn ardaloedd eraill ac yn nesu at dref enedigol y Cyrnol Gaddafi ei hun, Sirte.

Mae miloedd o weithwyr tramor wedi bod yn ceisio dianc o Libya, yn ôl gwasanaeth dyngarol y Cenhedloedd Unedig.