Y tân yn y ffatri yn Bangladesh ym mis Tachwedd 2012, pryd y cafodd 112 o weithwyr eu lladd (llun: PA)
Mae dau berchennog ffatri ddillad yn Bangladesh lle bu farw 112 o weithwyr mewn tân yn 2012 yn cael eu cadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau o ddynladdiad.

Yn ôl yr erlyniad, doedd dim allanfeydd diogel yn y ffatri yn y brifddinas Dhaka a oedd yn cyflenwi dillad i gwmnïau mawr gan gynnwys Wal-Mart.

Roedd y giatiau hefyd wedi cael eu cloi o’r tu allan wrth i’r ffatri fynd yn wenfflam.

Gwrthodwyd mechnïaeth i’r ddau berchennog, Delwar Hossain a’i wraig Mahmuda Akter, ac os byddan nhw’n cael eu canfod yn euog, fe fyddan nhw’n wynebu isafswm o saith mlynedd – a hyd at oes – o garchar.

Dyma’r tro cyntaf i Bangladesh geisio erlyn perchnogion ffatri yn niwydiant dillad y wlad, yr ail fwyaf ar ôl China.

Roedd y tân yn un o nifer o drychinebau marwol sydd wedi amlygu amodau gweithio peryglus yn ffatrïoedd dillad Bangladesh. Fe fu farw dros 1,100 o weithwyr wrth i ffatri ddymchwel am eu pennau ym mis Ebrill y llynedd.

Mae’r wlad dlawd yn ne Asia’n ennill dros £12.2 biliwn y flwyddyn wrth allforio dillad, yn bennaf i America ac Ewrop.