Cert Amish
Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i gyrff tri phlentyn Amish gafodd eu llyncu gan afon ar ôl glaw trwm yn nhalaith Kentucky, yn yr Unol Daleithiau.

Maen nhw’n parhau i chwilio am gorff plentyn arall.

Roedd cwpwl priod â saith o blant yn ceisio croesi’r afon â chert a cheffyl pan drodd y gert ar ei ochor gan daro’r plant i mewn i’r afon.

Llwyddodd y cwpwl a tri o’r plant i ddianc ond diflannodd y pedwar plentyn arall, pob un dan 12, i mewn i’r dyfroedd byrlymus.

Dywedodd y Siryf Dewayne Redmon bod cyrff tri o’r plant – gan gynnwys un oedd yn chwe mis oed – wedi eu darganfod heddiw.

Mae glaw trwm wedi disgyn ar Kentucky a thaleithiau eraill dros y dyddiau diwethaf.