Mae trên wedi taro wyth o bobol yn farw yn ne India.
Roedd y bobol yn croesi’r trac ar droed pan gawson nhw eu taro.
Roedd y bobol newydd ddod oddi ar drên yr oedden nhw’n teithio arni, oherwydd ofnau bod hwnnw ar dân. Wrth i’r trên hwnnw ddod i stop, fe neidion nhw oddi arno, cyn cael eu taro gan drên yn dod o’r cyfeiriad arall.
Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ardal Vijainagaram, tua 500 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Hyderabad.