Mae’r myfyriwr 19 oed sydd wedi ei ddal mewn cysylltiad â gosod bom yn ystod Marathon Boston, yn ddifrifol wael mewn ysbyty.

Dydi hi ddim yn bosib i’r heddlu holi Dzhokhar Tsarnaev ar hyn o bryd, ar ôl cael ei arestio ar gwch yn ardal Watertown o’r ddinas. Fe fu ef a’r heddlu’n tanio bwledi at ei gilydd, cyn iddo gael ei anafu a’i gludo oddi yno ar stretshiar.

Mae’r newydd am ei ddal wedi peri i rai fynd ar y strydoedd i ddathlu yn Boston.  

Fe gafodd brawd Dzhokhar Tsarnaev, Tamerlan Tsarnaev (26 oed) ei ladd ddoe pan gafodd ei saethu gan yr heddlu wrth geisio dianc.

Mae’r ddau frawd yn cael eu hamau o osod y bomiau a laddodd dri o bobol ac anafu dros 180 yn ystod y ras ddydd Llun. Mae’r ddau hefyd yn cael eu hamau o ladd swyddog heddlu Coleg Technoleg Massachusetts ddydd Iau.

Wrth osod neges ar wefan gymdeithasol Twitter, fe ddefnyddiodd yr heddlu un gair, “CAPTURED!!!”