Mae prif chwip y Ceidwadwyr Andrew Mitchell wedi dweud nad oedd wedi “dangos y parch y dylwn i fod wedi gwneud” yn ystod gwrthdaro gyda phlismon yn  Downing Street.

Mae cofnodion yr heddlu yn dangos bod Andrew Mitchell wedi rhegi at blismyn a’u galw’n “plebs” ar ôl iddo golli ei dymer pan gafodd ei atal rhag seiclo allan o glwydi Rhif 10 wythnos diwethaf, yn ôl adroddiadau heddiw.

Gwrthododd Mitchell â dweud beth yn union a ddywedodd wrth y plismon ar y glwyd ond gwadodd ei fod wedi defnyddio’r gair “pleb” a dywedodd ei fod eisiau  “tynnu llinell dan yr holl beth.”

“Roedd wedi bod yn ddiwrnod hir a rhwystredig tu hwnt – nid fod hynny’n esgus o gwbl am yr hyn ddigwyddodd,” meddai Andrew Mitchell.

Dywedodd hefyd nad oedd am ymddiswyddo dros y digwyddiad a bod ei waith yn parhau.

Nick Clegg: Angen i Mitchell ‘esbonio ei hun’

Yn gynharach heddiw dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg fod angen i Andrew Mitchell “esbonio ei hun yn llawn ac yn fanwl” ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd yn ystod y ffrae gyda’r heddlu yn Downing Street

“Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd, dydw i ddim yn credu bod neb yn gwybod yn union beth ddigwyddodd ac mae ’na wahanol fersiynau yn ymddangos yn y wasg.

“Rwy’n credu felly ei fod yn bwysig bod Andrew Mitchell yn esbonio yn llawn ac mewn manylder ei fersiwn o’r hyn ddigwyddodd.”

Mae cofnodion gan swyddogion diogelwch Scotland Yard, sydd heb gael eu cyhoeddi ond sydd wedi cael eu gweld gan bapur The Sun, yn gwrthddweud datganiad Andrew Mitchell ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd.

Roedd rhai o aelodau blaenllaw’r Llywodraeth Glymblaid wedi dweud y dylid dod â diwedd i’r mater ar ôl i Andrew Mitchell, AS Sutton Coldfield, ymddiheuro wrth y plismon. Ond fe fydd y dogfennau yn codi amheuaeth am ei ddyfodol yn y Llywodraeth.