Mae nifer y cartrefi sy’n cael eu hailfeddiannu wedi gostwng i 8,500 yn ail chwarter y flwyddyn, y nifer lleiaf ers 2010, yn ôl y Cyngor Benthycwyr Morgeisi (CML).

Roedd 8,500 o gartrefi wedi cael eu hailfeddiannu rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni, sef y ffigwr isaf ers tri mis olaf 2010, meddai’r CML.

Ond mae’r CML wedi rhybuddio y gall y nifer gynyddu oherwydd rhagolygon gwael Banc Lloegr ddoe am gyflwr yr economi.