Fe fydd meddygon yn gweithredu’n ddiwydiannol am 24 awr i brotestio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio pensiynau.

Fe fydd y streic yn cael ei gynnal ar 21 Mehefin ac fe fydd achosion sydd ddim yn rhai brys yn cael eu gohirio ar y diwrnod hwnnw.

Dywed Cymdeithas Feddygol y BMA eu bod yn “amharod iawn” i gynnal streic ond maen nhw wedi ymosod ar y Llywodraeth am droi cefn ar gytundeb pensiynau a wnaed bedair blynedd yn ôl.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn pleidlais gan y BMA lle’r oedd y mwyafrif o blaid gweithredu’n ddiwydiannol.

Dywedodd Dr Hamish Meldrum, cadeirydd cyngor y BMA, y bydd meddygon yn sicrhau diogelwch cleifion yn ystod y streic.

‘Dim cydymdeimlad’

Ond mae’r Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley wedi dweud “na fydd y cyhoedd yn deall nac yn cydymdeimlo â’r BMA” os ydyn nhw’n gweithredu’n ddiwydiannol ynglŷn â phensiynau.