Jeremy Hunt
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, dan bwysau i alw am ymchwiliad i honiadau bod yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi torri rheolau gweinidogol wrth ymdrin â chwmni News Corporation Rupert Murdoch.

Mae’r Blaid Lafur yn honni bod Jeremy Hunt wedi torri’r rheolau tair gwaith wrth fynd i’r afael ag ymgais News Corp i gymryd drosodd cwmni BSkyB am £8 biliwn.

Yn y cyfamser mae’n debyg bod yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn ystyried ymchwilio i weld a oedd swyddfa Jeremy Hunt wedi cyhoeddi gwybodaeth oedd yn sensitif i’r farchnad i News Corp gan dorri rheolau’r Ddinas.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, yn dweud y bydd rhaid iddo gyfeirio’r achos at yr ymgynghorydd annibynnol ar fuddion gweinidogion, Syr Alex Allan.

Mae’r Llywodraeth mewn dŵr poeth unwaith eto ar ôl i Ymchwiliad Levenson i safonau yn y cyfryngau gyhoeddi llyfryn 163 tudalen sy’n dangos manylion trafodaethau rhwng un o weithredwyr News Corp, Frederic Michel, a swyddfa Jeremy Hunt.

‘Teg’

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe, gwadodd Jeremy Hunt bod y ffrwd o e-byst a negeseuon testun yn cynrychioli “llwybr cudd”.

Mynnodd ei fod wedi ystyried cynnig News Corp i brynu BSkyB mew modd “hollol deg”.

Serch hynny bu’n rhaid iddo dderbyn ymddiswyddiad ei ymgynghorydd arbennig Adam Smith, gan gyfaddef bod ei gysylltiadau â Frederic Michel “wedi mynd yn rhy bell” ac nad oedden nhw “yn briodol”.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, fod Jeremy Hunt “yn gwneud gwaith gwych ac mae ganddo fy nghefnogaeth lawn”.

Serch hynny mae’r Blaid Lafur yn benderfynol o gadw’r pwysau ar yr Ysgrifennydd Diwylliant.

“Rhaid cyfeirio’r mater at yr ymgynghorydd annibynnol ar fuddion gweinidogion ar frys,” meddai Harriet Harman.