Mae cwmni Mothercare wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cau 111 o siopau dros y tair blynedd nesaf, gan roi 730 o swyddi yn y fantol.

Fe gyhoeddodd y cwmni, sy’n gwerthu nwyddau i fabanod a phlant ifanc,  eu cynlluniau i dorri nifer eu siopau yn y DU o 311 i 200, a fydd yn cynnwys 36 o siopau Mothercare a 75 o siopau Early Learning Centre.

Mae’n dilyn misoedd o werthiant gwael yn y DU. Roedd gwerthiant y cwmni wedi gostwng 9.5% yn y 12 wythnos hyd at 31 Mawrth, o’i gymharu â 3% yn y chwarter blaenorol.

Mae Mothercare hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared â 90 o swyddi yn ei bencadlys.

Mae’r cwmni eisoes wedi cau 62 o siopau yn y flwyddyn ariannol hon.

Ond er bod gostyngiad mewn gwerthiant wedi bod yn y DU, mae eu perfformiad dramor, lle mae gan y cwmni 1,000 o siopau, wedi bod llawer gwell, gyda chynnydd o 18% mewn gwerthiant.

Fe fydd prif weithredwr newydd y cwmni Simon Calver, yn cychwyn yn ei swydd ar 30 Ebrill. Mae disgwyl i’r cwmni geisio ehangu ei bresenoldeb ar-lein.