Bydd angen gwrthsefyll cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gyflwyno tâl rhanbarthol, clywodd athrawon heddiw.
Byddai’r cynllun yn golygu bod gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn cael llai o dal mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig lle mae’r cyflogau cyfartalog yn is.
Fe fydd angen i undebau llafur streicio er mwyn atal y cynllun a fyddai yn arwain at “chwalu a phreifateiddio addysg”, yn ôl cynhadledd flynyddol undeb athrawon yr NUT yn Torquay.
Rhybuddiodd cynrychiolwyr bod tâl rhanbarthol yn rhan o strategaeth Llywodraeth San Steffan i ostwng cyflogau ac amodau gwaith er mwyn chwalu’r system addysg.
Cyhoeddodd yr undeb eu bod nhw’n “gwrthwynebu yn gyfan gwbl bwriad y Llywodraeth i ymosod ar dâl ac amodau gwaith athrawon”.
Os oedd yr Ysgrifennydd Addysg yn mynd ati i ymosod ar gyflogau ac amodau gwaith athrawon, fe ddylai’r Prif Weithredwr weithredu er mwyn atal hynny, gan gynnwys galw streic gyffredinol.
Mae yna bryder am yr effaith y byddai tâl rhanbarthol yn ei gael ar economi Cymru, lle mae canran uchel o’r boblogaeth yn gweithio yn y sector gyhoeddus, ond lle mae cyflogau yn y sector breifat yn llawer is ar gyfartaledd.
Mae gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn cael eu talu 18% yn fwy ar gyfartaledd yng Nghymru. Ond cred Llywodraeth San Steffan yw y byddai tâl rhanbarthol yn rhoi hwb i’r sector breifat.
Beirniadaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan y lach hefyd. Ddoe beirniadodd undeb NASUWT gynlluniau’r llywodraeth i newid y modd y mae athrawon yn cael eu gwerthuso.
O fis Medi ymlaen fe fydd system newydd yn cael ei gyflwyno a fydd yn golygu rhagor o lenwi ffurflenni.
Dywedodd yr undeb eu bod nhw’n pryderu y bydd yn rhoi gormod o bwysau gwaith ychwanegol ar athrawon.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud mai’r nod oedd sicrhau bod safonau’n codi.