Mae banc RBS wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared â 3,500 o swyddi dros y tair blynedd nesaf yn yr adran fuddsoddi.

Mae’r Llywodraeth yn berchen ar 83% o’r banc ac mae RBS  wedi bod dan bwysau gan y Llywodraeth  i roi’r gorau i’w chynlluniau i fuddsoddi ar lefel byd-eang.

Mae Global Banking and Markets (GBM) yn cyflogi gweithwyr yn Stoke, Manceinion, Caeredin a Llundain. Mae nhw’n cyflogi 18,900 o weithwyr yn fyd-eang ac yn cynnig nifer o wasanaethau ariannol.

Daw’r cyhoeddiad diweddara ar ôl i’r banc gyhoeddi y byddai 2,000 o swyddi’n diflannu gyda’r banc yn yr haf y llynedd. Fe fydd yn golygu bod 11,000 o swyddi wedi cael eu colli gyda GBM.