Mae’r peldroediwr Wayne Rooney a’i reolwr yn Manchester United, Alex Ferguson, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn gwadu fod y chwaraewr am adael Old Trafford.

Mae straeon wedi bod yn chwyrlio o gwmpas y lle fod y perthynas rhwng y ddau wedi dirywio’n ddiweddar.

Y sôn ydi fod Rooney wedi cael ei atal rhag chwarae yn y gêm ddiweddar yn erbyn Blackburn ar ôl iddo fynd allan ar Ddydd San Steffan efo’i wraig Colleen a’i gydchwaraewyr Darron Gibson a Johnny Evans. Fe gollodd Manchester United y gêm honno o ddwy gôl i dair.