Nadolig llwm i ambell un eleni
Bydd bron i 300,000 o bobol ar draws Prydain yn treulio eu hail Nadolig yn olynol ar y dôl yn dilyn cynnydd mawr mewn diweithdra tymor hir, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Bydd 75,000 o’r rheini yn treulio eu trydydd Nadolig yn olynol heb ddod o hyd i waith.

Yn ôl undeb y TUC mae nifer y bobol sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis wedi cynyddu 35,000 ers mis Tachwedd y llynedd.

Yn Llundain a’r Alban oedd y cynnydd mwyaf, medden nhw, sef 8,745 a 5,800.

Yn ôl y ffigyrau mae 8,050 yn fwy o bobol wedi bod allan o waith am 12 mis yng Nghymru nag oedd yn 2007. Roedd 12,540 allan o waith am fwy na 12 mis erbyn Tachwedd eleni, o’i gymharu â 11,970 yn 2010 a dim ond 4,490 yn 2007.

Serch hynny roedd wyth allan o’r 10 awdurdod lleol oedd â’r cynnydd mwyaf yn nifer y bobol oedd wedi bod ar y dôl ers 12 mis yn yr Alban, a dim un yng Nghymru.

Rhybuddiodd y TUC fod diweithdra tymor hir yn cael effaith niweidiol ar yrfaoedd ac iechyd pobol, ac y dylai’r Llywodraeth wneud mwy er mwyn targedu’r rheini sydd wedi bod allan o waith am gyfnodau hir.

“Fe fydd hi’n Nadolig digon llwm eleni i’r chwarter miliwn o bobol fydd yn treulio eu hail Nadolig yn olynol ar y clwt,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Brendan Barber.

“Mae’r cynnydd mewn diweithdra tymor hir yn ergyd i gyfeillion a theuluoedd y bobol sydd ddim yn gallu dod o hyd i waith, ac yn effeithio ar gymunedau cyfan hefyd.

“Rydyn ni’n pryderu fod y Llywodraeth wedi bod mor barod i awgrymu mai diogi mae’r bobol hyn sydd ar y dôl.

“Mae Prydain yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd ac mae’n warthus bod miliynau o’n trigolion yn wynebu tlodi’r Nadolig yma.”