Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am roi teyrnged i’r gweithwyr iechyd rheng flaen sydd wedi colli eu bywydau yn sgil y coronafeirws, wrth i wledydd Prydain gynnal munud o dawelwch i’w cofio.

Daw hyn ddiwrnod yn unig ar ôl i Boris Johnson ddychwelyd i Downing Street ar ôl iddo fe ei hun wella o’r coronafeirws.

Ddechrau mis Ebrill, treuliodd e dair noson mewn uned gofal dwys a heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28), fe fydd yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch am 11 o’r gloch i gofio’r 90 o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi marw yn ystod y pandemig.

Dim llacio’n rhy gynnar

Yn ôl adroddiadau, mae Boris Johnson yn bwriadu mireinio rheolau’r lockdown o fewn y dyddiau nesaf, yng nghanol pwysau cynyddol gan y Llywodraeth i amlinellu’r camau nesaf cyn y bydd yn rhaid eu hadolygu ddydd Lun, Mai 7.

Wrth siarad y tu allan i Downing Street ddoe (dydd Llun, Ebrill 27), mynnodd na fyddai’n llacio’r cyfyngiadau’n rhy gynnar gan gynyddu’r perygl o ail anterth y feirws.

Mae’r Times yn adrodd y bydd ysgolion Lloegr yn aros ar gau fis nesaf, ond y bydd siopau sydd yn gwerthu nwyddau nad ydyn nhw’n cael eu cyfri’n hanfodol yn cael agor os yw’r cwsmeriaid yn cadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd.

Efallai y bydd pobol yn cael dechrau cymysgu gyda grwpiau mwy o ffrindiau a theulu hefyd yn ôl y papur.

Ystadegau

Erbyn 5 o’r gloch ddydd Sul (Ebrill 26), roedd cyfanswm o 21,092 o bobol wedi marw yn yr ysbyty ar ôl profi’n positif ar gyfer y coronafeirws ym Mhrydain – 360 yn fwy na’r cyfanswm y diwrnod blaenorol.

Er hyn, mae’n debygol y bydd y nifer go iawn dipyn yn uwch unwaith fydd y marwolaethau y tu allan i’r ysbyty yn cael eu cyfrif.

Bydd nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach.