Roedd targed Llywodraeth yr Alban ar gyfer nifer y profion coronafeirws oedd i’w cynnal cyn diwedd y mis deirgwaith yn fwy na’r nifer sydd wedi’u cynnal, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Dywedodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, ei bod hi’n hyderus o allu cynnal 3,500 o brofion erbyn diwedd mis Ebrill.

Ond mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth yr Alban yn dangos mai 1,137 o bobol oedd wedi cael eu profi gan fyrddau iechyd rhwng 8yb ddydd Sul (Ebrill 26) ac 8yb ddydd Llun (Ebrill 27) – 1,408 yn llai na’r diwrnod cynt.

Dywed Jeane Freeman, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, ei bod hi’n disgwyl i’r Alban fod yn defnyddio ei chapasiti profi’n llawn erbyn diwedd yr wythnos.

‘Cyrraedd a phasio’r targed’

“Roedd y targed o 3,500 yn ymwneud â phrofion,” meddai Nicola Sturgeon.

“Dwi’n credu y byddwn ni’n cyrraedd ac yn pasio’r targed hwnnw.

“Ond wrth gwrs, mae hi’n bwysig defnyddio capasiti os yw e gennym ni, a dyna rydym yn canolbwyntio ar ei wneud.”