Mae pob mynediad cyhoeddus i San Steffan wedi’i atal am y tro er mwyn ymladd Covid-19.

Mae’r Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle yn annog unrhyw aelod seneddol dros 70 mlwydd oed, yn ogystal â’r rhai sydd â phroblemau iechyd neu sy’n feichiog, i “gymryd sylw o’r cyngor sydd wedi’i roi gan Iechyd cyhoeddus Lloegr.”

O dan y canllawiau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun (Mawrth 16), mae’r grwpiau yma’n cael eu “cynghori’n gryf” i beidio â chymysgu yn y gymdeithas.

Mewn datganiad ddydd Llun, Mawrth 16, dywedodd Syr Lindsey Hoyle “na fydd unrhyw fynediad i’r galeri cyhoeddus” yn y ddau Dŷ o ddydd Mawrth (Mawrth 17) ymlaen o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws.

Mae mesurau wedi eu cymryd yn barod i ohirio teithiau, gydag aelodau seneddol, cydweithwyr a deiliaid cerdyn mynediad yn cael eu hannog i beidio â dod â gwesteion i San Steffan am ymweliadau, a gwaharddiad ar lobïo torfol gan grwpiau ymgyrchu.

‘Mesurau rhesymol’

“Rydym  i gyd yn deall pa mor bwysig yw fod y Llywodraeth yn cario ymlaen mewn amser mor anodd, yr angen i sicrhau archwiliadau manwl a bod gofidiau ein hetholwyr yn cael eu trafod,” meddai.

“Er hyn, er mwyn lleihau’r perygl i’r rheiny sydd yn gweithio yn San Steffan ac i’r rhai sydd yn ymweld, rydym wedi cymryd mesurau rhesymol er mwyn lleihau’r perygl o rannu’r feirws.”

Dywed fod y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd gan awdurdodau San Steffan.

O heddiw ymlaen (dydd Mawrth, Mawrth 17), bydd teithiau aelodau seneddol o’u hetholaethau’n cael eu gohirio, canolfan addysg y llywodraeth yn cau a phob ymweliad ysgol yn dod i ben.