Mae 61% o Albanwyr o blaid rhoi’r hawl i Senedd yr Alban yn Holyrood benderfynu a ddylid cynnal ail refferendwm annibyniaeth, yn ôl pôl newydd.
Dim ond 39% sydd o blaid rhoi’r penderfyniad yn nwylo San Steffan, meddai’r pôl gan Survation ar ran Progress Scotland.
Dywed 58% y dylai aelodau Senedd yr Alban benderfynu pryd mae cynnal y refferendwm, tra mai dim ond 42% sy’n credu mai San Steffan ddylai wneud y penderfyniad hwnnw.
Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Ionawr 20 a 22, a chafodd 1,019 o bobol eu holi.
Mae disgwyl iddyn nhw gynnal pôl arall eleni yn gofyn i bobol a fu’n ansicr neu’n cadw meddwl agored ynghylch a ddylai’r Alban fynd yn annibynnol.
Cefnogaeth o sawl cyfeiriad
Yn ôl Progress Scotland, mae’r gefnogaeth i refferendwm annibyniaeth yn mynd ymhell y tu hwnt i gefnogwyr yr SNP a mudiad Yes Scotland.
Maen nhw’n dweud bod nifer gynyddol o gefnogwyr Llafur bellach yn cefnogi annibyniaeth.
“Mae hyn yn arbennig o berthnasol o gofio mandad Llywodraeth yr Alban i gynnal refferendwm a dyddiad Brexit y Deyrnas Unedig sydd ar y gorwel,” meddai llefarydd.
“Rhaid cofio mai’r ffactor mwyaf sydd wedi newid meddyliau pobol am annibyniaeth yr Alban yw Brexit.”