Bydd Senedd Stormont yn ail-ymgynnull am y tro cyntaf ers dwy flynedd a hanner heddiw (dydd Llun, Hydref 21) i drafod y newidiadau i ddeddfwriaeth erthyliad Gogledd Iwerddon.
Mae’n debyg mai symbolaidd yn unig fydd y cyfarfod gan nad yw’r Cynulliad yn gallu deddfu heb weinidog gweithredol.
Mae gwleidyddion sy’n gwrthwynebu’r newidiadau wedi diystyru’r sesiwn ond mae’r Aelodau Cynulliad a oedd wedi galw am gynnal y sesiwn wedi mynnu y bydd yn gyfle i leisio barn am y newidiadau.
DUP ac UUP yn mynychu
Ond mae disgwyl y bydd aelodau o’r DUP a’r UUP yn mynychu’r cyfarfod gan fod y ddwy blaid yn gwrthwynebu cyfreithloni erthyliad.
Yn y cyfamser mae Sinn Fein wedi dweud na fydden nhw’n mynychu’r sesiwn gan ei ddisgrifio fel ‘syrcas’.
Nid yw’n glir pa mor hir fydd y sesiwn yn parhau gan mai’r eitem gyntaf ar yr agenda yw penodi llefarydd ac mae angen cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y bleidlais. Ond fe fydd y ddeddf erthylu yn newid yng Ngogledd Iwerddon am hanner nos ddydd Llun. Wedi hynny fe fydd y Llywodraeth yn San Steffan yn cymryd y cyfrifoldeb o gyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn rhoi gwell mynediad at wasanaethau erthylu ar draws y rhanbarth erbyn mis Ebrill nesaf.
Yn ystod y cyfnod cyn hynny bydd menywod yn cael cynnig trafnidiaeth am ddim ar gyfer gwasanaethau erthylu yn Lloegr. Mae’r ddeddf newydd sy’n dod i rym hefyd yn caniatáu priodasau unrhyw yng Ngogledd Iwerddon ym mis Ionawr ac mae disgwyl y briodas gyntaf o’r fath ym mis Chwefror.
Dim ond trwy adfer y Cynulliad yn Stormont cyn hanner nos fyddai modd atal y ddeddfwriaeth newydd ond mae hynny’n annhebygol iawn o ddigwydd gan fod y DUP a Sinn Fein yn dal i anghydweld ynglŷn â nifer o faterion.