Mae sialens gyfreithiol i benderfyniad Boris Johnson i brerogio’r Senedd wedi cael ei wrthod gan yr Uchel Lys yn Llundain.

Wrth wrthod achos Gina Miller, dywedodd y Barnwr, yr Arglwydd Burnett: “Rydym wedi dod i’r casgliad, tra y dylem roi caniatâd i geisio am adolygiad barnwrol, mae’n rhaid i’r achos yma gael ei wrthod.”

Mae’r Barnwyr wedi rhoi caniatâd i’r achos fynd gerbron y Goruchaf Lys ar Fedi 17.