Mae aelodau seneddol wedi cefnogi mesur sy’n atal ymdrechion posib i ddirwyn y senedd i ben er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb.

Cafodd gwelliant gan yr aelodau seneddol Llafur, Hilary Benn ac Alistair Burt ei dderbyn o fwyafrif o 41 o bleidleisiau.

Bydd yr Arglwyddi nawr yn pleidleisio ar fesur tebyg.

Tra bod Jeremy Hunt eisoes wedi datgan na fyddai e’n ceisio dirwyn y senedd i ben, dydy Boris Johnson, ei wrthwynebydd yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr, ddim wedi wfftio’r posibilrwydd.

‘All aelodau seneddol ddim mynd ar goll’

Wrth gyflwyno’r mesur, rhybuddiodd Hilary Benn na all aelodau seneddol “fynd ar goll” mewn ymgais i orfodi ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae’n dadlau bod rhaid i’r senedd gyfarfod, hyd yn oed pe bai ymgais i’w dirwyn i ben dros dro.

“Mae gan Brexit oblygiadau arwyddocaol i’r wlad yn ei chyfanrwydd, ond fe fydd ganddo oblygiadau penodol o ran Gogledd Iwerddon,” meddai.

Bydd mater Gogledd Iwerddon yn cael ei drafod yfory (dydd Iau, Gorffennaf 19).