Mae cyfreithiau newydd i amddiffyn goroeswyr trais yn y cartref yn dod gam yn agosach wrth i ddeddf gael ei chyflwyno yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16).
Fe fydd Deddf Trais yn y Cartref, sy’n cael ei gweld fel rhan allweddol o gyfnod Theresa May yn Downing Street, yn cael darlleniad o flaen Aelodau Seneddol.
Fe fydd y ddeddf yn rhoi mwy o warchodaeth i bobol sy’n ceisio dianc rhag trais yn y cartref, gan osod dyletswydd gyfreithiol ar gynghorau i sicrhau tai iddyn nhw a’u plant.
Bydd trais yn y cartref yn cael ei ddiffinio’n ffurfiol hefyd, gan gynnwys cam-drin economaidd ac ymddygiad seicolegol (fel rheoli) yn cael eu pwysleisio. Mae yna gynnig hefyd i sefydlu swydd Comisiynydd Trais Domestig er mwyn goruchwylio’r maes.
Fe fydd y ddeddf yn cael ei thrafod yn ystod y darlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin, ond mae’r cyflwyniad yn paratoi’r ffordd ar gyfer trafodaethau pellach.
“Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i ddod â’r rheiny sy’n cyflawni’r troseddau ffiaidd hyn o flaen eu gwell, ond i gefnogi dioddefwyr wrth iddyn nhw ail-adeiladu eu bywydau,” meddai Theresa May.
“Bydd y mesur hwn yn ein helpu i wneud hynny, ac yn cynrychioli gwir newid yn ein hagwedd.”