Mae Jeremy Corbyn wedi galw am ymchwiliad annibynnol “cyflym a thrylwyr” i honiad ei fod yn “rhy fregus” i fod yn Brif Weinidog.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Sedwill, dywed arweinydd y blaid Lafur bod yr achos wedi “tanseilio hyder yn egwyddor niwtraliaeth y gwasanaeth sifil”, ac mae’n galw am ymchwiliad.

Roedd papur newydd The Times wedi adrodd dros y penwythnos fod dau o uwch weision sifil wedi dweud fod yn rhaid i Jeremy Corbyn, 70, ymddeol “ar sail problemau iechyd”.

Daeth ymateb chwyrn gan Lafur, oedd yn gwadu’r sylwadau fel ymgais “ofnadwy” i danseilio ymdrechion y blaid i ennill grym.

Mae Mark Sedwill wedi addo ymchwilio i’r mater mewn llythyr yn ateb arweinydd Llafur.