Mae un o gyn-Aelodau Seneddol yr SNP wedi cael ei charcharu am ddeunaw mis ar ôl dwyn £25,600 oddi wrth grwpiau ymgyrchu tros annibyniaeth.
Clywodd y llys yn Glasgow fod Natalie McGarry, 37, wedi defnyddio’r arian mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys trosglwyddo rhan ohono i’w gŵr, yn ogystal â’i wario ar rent a gwyliau i Sbaen.
Fe blediodd yn euog i ddau achos o embeslad yn ystod gwrandawiad ar Ebrill 24, ac er iddi geisio dynnu’r ple yn ôl, fe gafodd y cais ei wrthod gan y Sheriff.
Yn ôl cyfreithiwr Natalie McGarry, mae ei gleient yn parhau i wadu unrhyw ddrwgweithredu.
Ychwanegodd fod y cyn-wleidydd wedi bod yn dioddef o iechyd meddwl ers blynyddoedd a bod hynny wedi gwaethygu yn ddiweddar wedi iddi golli ei phlentyn.
“Mae ei bywyd ar ei isaf erioed,” meddai’r cyfreithiwr. “Mae ei gyrfa wedi ei sarnu; mae ei henw da wedi diflannu; mae wedi colli ffrindiau, cydweithwyr a’i gwaith, a bellach ei phlentyn.”
Pwysleisiodd hefyd fod sefyllfa ariannol y teulu yn “helbulus” ar hyn o bryd, a bod ei gŵr wedi gorfod ymgymryd â dwy swydd er mwyn cefnogi ei anwyliaid.
Aelod Seneddol
Cafodd Natalie McGarry ei hethol yn Aelod Seneddol tros Ddwyrain Glasgow yn 2015, ond bu’n rhaid i chwip yr SNP gael ei dynnu’n ôl oddi arni yn sgil yr honiadau o dwyll yn ei herbyn.
Cafodd ei chyhuddo gan yr heddlu yn 2017 tros dwyll a oedd yn ymwneud ag arian a gafodd ei gymryd oddi ar y grŵp Women for Independence.
Ni wnaeth Natalie McGarry ailsefyll yn yr etholiad cyffredinol yn 2017.