Mae arweinydd Sinn Fein wedi gorfod amddiffyn ei safle yn dilyn colledion i’r blaid yn yr etholiadau lleol yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Fe gollodd y blaid bron i hanner ei seddi yn ystod yr etholiadau a gafodd eu cynnal yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Mai 24), yr eildro i’r blaid weld gostyngiad yn ei chefnogaeth ers i Mary Lou McDonald gamu i’r arweinyddiaeth.

Ers hynny, mae yna gryn ddyfalu ynghylch dyfodol y Llywydd, ond mae’r gwleidydd, 50, wedi wfftio adroddiadau am hynny.

“Daw’r prawf [ar yr arweinyddiaeth] pan nad yw pethau’n mynd yn iawn,” meddai. “Daw’r prawf pan ydych chi mewn sefyllfa anodd ac yn gorfod meddwl sut i ddelio â hi a sut i arwain y blaid gyda chi.

“Dw i’n awyddus i wneud hynny. Dw i’n awyddus i ddysgu gwersi ac i ddod â’r blaid yn ôl unwaith yn rhagor.

“O ran y seddi rydyn ni wedi eu colli, gadewch i mi ddweud hyn: fe fyddwn ni yn ôl i adennill y seddi hynny.”