Mae cannoedd o bobol wedi bod yng ngwasanaeth coffa Paddy Ashdown heddiw (dydd Mercher, Mai 29).
Bu farw cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol o ganser yn 77 oed ar Ragfyr 22 y llynedd.
Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn ei etholaeth yn Yeovil yng Ngwlad yr Haf, ac roedd ei olynydd David Laws yn bresennol.
Gyrfa
Roedd Paddy Ashdown yn aelod seneddol Yeovil rhwng 1983 a 2001, ac yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol o 1988 i 1999.
Treuliodd e gyfnod yn y Gwasanaeth Cychod Arbennig ac yn y Swyddfa Dramor. Ar ôl rhoi’r gorau i fod yn aelod seneddol, aeth yn ei flaen i fod yn Uwch Gynrychiolydd i wlad Bosnia a Herzegovina, ac yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi.