Mae John Bercow yn dweud ei fod yn dymuno aros yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, gan wfftio’r awgrym y gallai gamu o’r neilltu ym mis Gorffennaf.
Mae’n dweud y gallai aros yn ei swydd tan ar ôl i’r broses Brexit ddod i ben, ac na fyddai’n “synhwyrol” gadael tra bod “digwyddiadau mawreddog” ar droed a “materion mawr i’w datrys” yn San Steffan.
“Dw i erioed wedi dweud unrhyw beth am adael ym mis Gorffennaf eleni,” meddai wrth bapur newydd The Guardian.
“Yn ail, dw i’n teimlo fod nawr yn adeg pan fo digwyddiadau mawreddog a materion mawr i’w datrys ac o dan yr amgylchiadau hynny, dydy hi ddim yn fy nharo i’n synhwyrol i adael y gadair.
“Pe bai gen i fwriad o unrhyw fath i wneud cyhoeddiad ar y mater… byddwn yn gwneud hynny gerbron y Senedd yn gyntaf.”
Beirniadu’r Llefarydd…
Mae’r datganiad gan John Bercow yn debygol o gythruddo Ceidwadwyr pro-Brexit, sydd eisoes wedi ei feirniadu ynghylch ei safiad ar ddeddfwriaeth Brexit yn San Steffan.
Mae hefyd wedi’i feirniadu ynghylch y ffordd yr aeth ati i ymdrin â honiadau o fwlio ac aflonyddu o fewn y sefydliad.
Yn ôl y cyn-weinidog Ceidwadol Maria Miller, ddylai’r “un Aelod Seneddol” roi rhwydd hynt iddo barhau yn ei swydd.
Mae hi’n galw am “newid yn gyfangwbl” yn arweinyddiaeth Tŷ’r Cyffredin.
… ond eraill yn ei gefnogi
Er hynny, mae yna rai aelodau seneddol Llafur sy’n dal i gefnogi John Bercow, gan gynnwys Barry Sheerman, sy’n dweud ei fod e wrth ei fodd gyda’r cyhoeddiad.
Mae Steve Reed, aelod o’r cabinet cysgodol, yn dweud ei fod e’n “gwneud y peth iawn” wrth aros yn ei swydd, gan fod “angen ei brofiad”.