Mae disgwyl i Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd San Steffan, gyhoeddi heddiw (dydd Sul, Mai 26) ei fod yn dymuno arwain y Blaid Geidwadol.
Fe fydd â’r rhestr sy’n cynnwys enwau Dominic Raab, Andrea Leadsom, Jeremy Hunt, Rory Stewart, Matt Hancock, Esther McVey a Boris Johnson.
Mae lle i gredu y bydd e’n cael ei ystyried yn ymgeisydd all uno’r blaid unwaith eto yn dilyn yr hollt tros Brexit.
Ond mae posibilrwydd y gallai aildanio’r ffrae rhyngddo fe a Boris Johnson a ddigwyddodd adeg y ras ddiwethaf am yr arweinyddiaeth yn 2016.
Mae Michael Gove ymhlith y rhai sydd wedi amddiffyn cynllun Brexit Theresa May.
Bydd y prif weinidog presennol yn camu o’r neilltu ar Fehefin 7, a’r tebygolrwydd yw mai’r arweinydd newydd fydd yn ei holynu yn brif weinidog hefyd.