Mae Theresa May, yn cyfarfod cadeirydd y Pwyllgor 1922 y Torïaid heddiw (dydd Mawrth, Mai 7) i drafod pryd y bydd hi’n ymddiswyddo.

Daw’r cyfarfod gyda Syr Graham Brady ar ôl i’r pwyllgor alw am “eglurder” gan y Prif Weinidog am ei hamserlen ar gyfer camu o’r neilltu.

Wrth i drafodaethau rhwng y Llywodraeth a’r blaid Lafur ar gytundeb Brexit ail-afael heddiw, mae pwysau cynyddol o’i phlaid ei hun arni i fynd.

Yn ôl papur The Daily Tekegraph fe fydd Torïaid yn cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Theresa May ar Fehefin 15.

Ni fyddai Confensiwn y Ceidwadwyr Cenedlaethol yn rhwymo neb, ond byddai’n ychwanegu pwysau ar iddi fynd.

Mae Theresa May wedi dweud y bydd yn rhoi’r gorau iddi os caiff ei Chytundeb Ynadael ei gadarnhau, ond – gyda’r dyddiad cau ar gyfer Brexit wedi’i ymestyn hyd ddiwedd mis Hydref – dyw hi heb egluro pa mor hir y mae’n bwriadu aros os nad oes cytundeb.