“Fe ddylai’r Alban fod yn ffynnu ac yn rymus o fewn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai prif weinidog y wlad, Nicola Sturgeon.

Dywed arweinydd yr SNP bod proses Brexit wedi dangos y pŵer sydd gan wledydd bychain annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn datganiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan ei phlaid, cwestiynodd Nicola Sturgeon os yw Llywodraeth gwledydd Prydain am wrando “o’r diwedd” ar yr Alban.

“Eironi”

“Mae’n nodweddiadol bod 27 o’r gwledydd annibynnol wnaeth benderfynu ar ddyfodol gwledydd Prydain wythnos diwethaf, bod 12 ohonynt yn llai na neu o faint tebyg i’r Alban,” meddai Nicola Sturgeon.

“Fe ddylai’r Alban fod yn ffynnu ac yn rymus yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn hytrach, rydym yn wynebu cael ein gorfodi i’r ymylon.”

“Eironi mwyaf ymdrechion gwledydd Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ymdrech i ‘adfer rheolaeth’ yw ein bod yn lle hynny wedi gweld y pŵer sydd gan wledydd bach, annibynnol yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Mae Nicola Sturgeon yn galw am weithredu adeiladol gan Lywodraeth gwledydd Prydain yn ystod estyniad Brexit i Hydref 31 ac yn gofyn i Theresa May fod yn agored i sgwrs gyda phob plaid, nid Llafur yn unig.

Fe fydd arweinydd yr SNP yn gobeithio cadw’r Alban yn y farchnad sengl a chael ail refferendwm ar unrhyw gytundeb gadael gyda’r opsiwn o aros.