Mae adroddiadau bod swyddogion yr Undeb Ewropeaidd yn ystyried cynnig estyniad hyblyg o flwyddyn i Theresa May fedru cwblhau Brexit.

Yn ôl y BBC, mae Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, yn paratoi i gyflwyno’r cynnig gerbron arweinwyr Ewrop mewn uwch-gynhadledd yr wythnos nesaf mewn ymgais i sicrhau nad yw gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Ebrill 12.

Mae Theresa May wedi sgrifennu at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn gofyn am ymestyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd tan Fehefin 30.

Yn ôl y Prif Weinidog, mae am geisio cael yr Aelodau Seneddol i dderbyn ei Chytundeb Ymadael cyn yr etholiadau Ewropeaidd ar Fai 23, ond ychwanega fod gwledydd Prydain yn barod i wneud “paratoadau cyfrifol” rhag ofn.

Roedd ryw fath o ddisgwyl i Brexit ddigwydd ar ddiwedd yr wythnos nesaf (dydd Gwener, Ebrill 12), ond daw cais diweddaraf Theresa May ar ôl i’w chytundeb gael ei wrthod gan Aelodau Seneddol am y trydydd tro ar Fawrth 29.

Dal i drafod gyda Corbyn

Yn y cyfamser, mae’r trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Prydain ac arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wrth iddyn nhw geisio datrys yr anghydfod ynghylch Brexit.

Ond os yw’r trafodaethau hyn yn methu, meddai Theresa May yn ei llythyr at Donald Tusk, yna fe fyddai’r Llywodraeth yn ystyried sefydlu “consensws” ar wahanol opsiynau Brexit, gyda phosibilrwydd y byddai’r rheiny’n cael eu cyflwyno gerbron Aelodau Seneddol.